Yn ôl i newyddion

Yn Eu Blodau

Mae'r garddwyr brwd ymysg ein trigolion yn ein lletyau gwarchod wedi cipio tair gwobr yng nghystadleuaeth Wysg yn ei Blodau eleni.

Ysgrifennwyd gan Sam

04 Medi, 2018

Yn Eu Blodau
Mae'r garddwyr brwd ymysg ein trigolion yn ein lletyau gwarchod wedi cipio tair gwobr yng nghystadleuaeth Wysg yn ei Blodau eleni. Gyda rhywfaint o help gan Growing Space mae trigolion Castle Court wedi adeiladu ar eu llwyddiant y llynedd a chreu arddangosfa flodau wych unwaith eto. Dyfarnwyd y wobr aur iddynt, ond fe wnaethant hefyd ennill y Categori Gofal Gorau a'r Categori Masnachol Gorau ar y cyfan. Mae Des O'Keefe wedi canfod fod ei holl waith caled yn yr ardd yn hynod o werth chweil. Yn ogystal â'r basgedi crog hyfryd a'r blodau tlws, mae'r ardd yn Castle Court wedi cynhyrchu 20 pwys o datws a 40 pwys o domatos. Mae Gwen Jones yn un o drigolion Castle Court ac er nad yw'n cymryd rhan yn y plannu a dyfrio y mae rhai o'r rhai eraill yn ei fwynhau, mae'n gwerthfawrogi eu holl ymdrechion. Dywedodd: "Mae'n bleser mawr gennyf weld yr holl liwiau a'r blodau yn eu hanterth. Mae fy ffenestr yn wynebu'r ffordd felly weithiau rydw i'n hoffi crwydro ar hyd y coridor ac edrych ar y blodau gwych yn yr ardd gan feddwl pa mor hyfryd mae'n nhw’n edrych."

Yn ôl i newyddion