Yn ôl i newyddion

Rydym yma i chi

Yn y chwe wythnos o’r cyfnod clo, rydym wedi bod yn helpu llawer o’n trigolion mewn gwahanol ffyrdd. Yn ystod y cyfnod hwn rydym yn dal wrth law i helpu gyda gwaith trwsio brys, gwneud yn siŵr bod ein preswylwyr sy’n agored i niwed yn iawn, a chynnig cyngor ariannol. Dysgwch sut i …

Ysgrifennwyd gan Valentino

13 Mai, 2020

Yn y chwe wythnos o’r cyfnod clo, rydym wedi helpu ein preswylwyr mewn llawer o ffyrdd gwahanol
Yn y chwe wythnos o’r cyfnod clo, rydym wedi helpu miloedd o’n preswylwyr.
  • Rydym wedi ymgymryd â 1,260 o atgyweiriadau brys.
  • Rydym wedi cael £774,493 mewn enillion ariannol i breswylwyr.
  • Wedi galw ar fwy na 1,800 o breswylwyr sy’n agored i niwed i weld sut maent, a’u helpu yn unol â hynny.
Rydym yma o hyd i’ch helpu chi:
  • gyda chyngor ar arian, ynni a chyflogaeth;
  • ymgymryd â gwaith trwsio brys;
  • gyda pheth gwaith cynnal a chadw tiroedd;
  • aros yn ddiogel – mae ein Tîm Diogelwch Cymunedol yn parhau i weithio gyda chi a’r heddlu;
  • sicrhau bod eich cartref yn ddiogel – mae archwiliadau diogelwch trydan a nwy yn parhau;
  • i gael yr holl help a’r cymorth rydych ei angen i gynnal eich tenantiaethau ac aros yn iach.




Dywedodd un o’n preswylwyr wrthym: ”Roedd eich gwasanaeth yn wych wrth wneud gwaith trwsio brys. Rwy’n hapus iawn bod yn un o breswylwyr Melin.”
Rydym hefyd wedi bod:

  • yn dathlu gweithredoedd o garedigrwydd gyda’n Harwyr Cyfnod Clo;
  • dosbarthu cardiau post wedi eu hysgrifennu â llaw;
  • defnyddio technoleg yn greadigol;
  • creu prosiectau celfyddyd cymunedol;
  • cefnogi partneriaid mewn awdurdodau lleol ac yn y Bwrdd Iechyd.


Dywedodd preswylydd arall wrthym: “Mae’r help a’r cymorth rwyf wedi ei gael o’r radd flaenaf. Diolch am bopeth rydych yn ei wneud.”
Os gallwn eich helpu chi, cysylltwch a ni drwy ebost enquiries@melinhomes.co.uk neu ar y ffôn ar 01495 745910.

Yn ôl i newyddion