Yn ôl i newyddion

Arolwg o Farn Tenantiaid am Safon Ansawdd Tai Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal gwerthusiad o Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC), y safon cenedlaethol ar gyfer cartrefi sy'n cael eu gosod i denantiaid tai cymdeithasol. Fel rhan o'r gwaith o werthuso'r safon hwn, mae'r arolwg yn edrych ar agweddau tenantiaid tai cymdeithasol, ac fe fydd eu sylwadau yn cyfrannu at SATC yn y dyfodol ar ôl 2022.

Ysgrifennwyd gan Will

14 Gorff, 2022

whqs

Survey of the Welsh Housing Quality Standard

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgynghoriad ar ddiweddariad i Safon Ansawdd Tai Cymru.

Mae'n ofynnol i bob cartref cymdeithasol ledled Cymru, sy'n eiddo i gymdeithasau tai a chynghorau lleol sy'n cael eu gosod i denantiaid, fodloni amodau penodol.

Mae angen diweddaru Safon Ansawdd Tai Cymru ar ei ffurf bresennol i adlewyrchu newidiadau yn y ffordd y mae pobl yn byw, yn gweithio ac yn teimlo am eu cartrefi, ac i gynnwys datgarboneiddio stoc tai cymdeithasol Cymru.

Fe'ch gwahoddir i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad gwirfoddol a rhannu eich barn.Mae eich barn a'ch profiadau yn bwysig gan eu bod yn ein helpu i lunio a llywio polisi Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.

Mae'r ymgynghoriad yn cynnwys 25 cwestiwn. Nid oes yn rhaid i chi ateb pob un ohonynt os nad ydych yn teimlo'n gryf neu os ydynt yn rhy fanwl.

Bydd yr ymgynghoriad ar agor tan 3ydd Awst 2022.

Yn ôl i newyddion

Straeon eraill efallai yr hoffech eu gweld