Yn ôl i newyddion

Cefnogi Diwrnod Rhuban Gwyn

Mae ein Tîm Cynnal a Chadw sydd hwnt ac yma yn y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu, yn cefnogi Diwrnod Rhuban Gwyn i ddweud ‘na’ wrth drais yn erbyn menywod.

Ysgrifennwyd gan Fiona

19 Tach, 2021

Pedwar aelod o'r tîm Cynnal a Chadw yn dal rhubanau gwyn

Mae Addewid y Rhuban Gwyn yn datgan na ddylai dynion byth esgusodi, cadw’n dawel na throi at drais yn erbyn menywod. Bydd ein staff yn gwisgo rhubanau gwyn ar eu faniau trwy weddill gweddill mis Tachwedd i godi ymwybyddiaeth ymhlith trigolion a bydd ganddynt wybodaeth wrth law am ble y gall pobl gael help neu ymrwymo i'r addewid.

Ddydd Iau 25 Tachwedd, a’r 16 diwrnod sy’n dilyn, byddwn yn cefnogi Sefydliad y Rhuban Gwyn drwy ofyn i bawb ddod â diwedd i drais yn erbyn menywod, i ddod at ei gilydd, yn eu cymunedau, eu sefydliadau a’u gweithleoedd i ddweud ‘na’ wrth drais yn erbyn menywod.

Gallwch ddarganfod mwy trwy ymweld â gwefan White Ribbon.

Yn ôl i newyddion

Straeon eraill efallai yr hoffech eu gweld