Yn ôl i newyddion

Aelod o’r Heddlu lleol yn gweithio gyda’n Tîm Diogelwch Cymunedol

Daeth swyddog o’r Heddlu i ymweld â’n swyddfeydd yn ddiweddar er mwyn deall yn well sut mae rhai o’n timau yn gweithio.

Ysgrifennwyd gan Marcus

08 Rhag, 2016

The ASB team

Daeth swyddog o’r Heddlu i ymweld â’n swyddfeydd yn ddiweddar er mwyn deall yn well sut mae rhai o’n timau yn gweithio. Daeth PC Jo Skinner i weld y Tîm Diogelwch Cymunedol yr wythnos diwethaf. Er bod ein tîm eisoes yn gweithio’n agos â’r heddlu, roedd PC Skinner yn gallu gweld faint o waith sy’n mynd i mewn i bob achos unigol a pha mor allweddol gall gwybodaeth gan yr Heddlu fod wrth ddatrys achos. Dywedodd PC Skinner “Mwynheais yn fawr y cyfle i weld beth mae’r tîm yn gwneud o ddydd i ddydd, yn arbennig mynd allan i ymweld a gweld y gwaith sy’n mynd i mewn i achos a fydd yn mynd i’r llys.”

Mae’r tîm wedi agor 138 achos newydd dros y tri mis diwethaf, a’r prif broblemau yw niwsans sŵn, cam-drin geiriol a materion yn ymwneud â chyffuriau.

Sut i ddweud wrthym am ymddygiad gwrthgymdeithasol

Byddwn yn gadarn ond yn deg gyda digwyddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol a byddwn yn rhoi cefnogaeth i chi i ddelio ag unrhyw anghydfod yn y gymdogaeth cyn iddo fynd yn waeth.

Gallwch ddweud wrthym am ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn un o’r ffyrdd canlynol:

  • Cwblhewch y ffurflen i’r dde o’r dudalen hon (Dewiswch yr opsiwn priodol yn y blwch);
  • Defnyddiwch y cyfleuster sgwrsio ar waelod y dudalen hon;
  • E-bostiwch ni ar asb@melinhomes.co.uk
  • Ffoniwch ni ar 01495 745910
Ewch i’n tudalen Ymddygiad Gwrthgymdeithasol am fwy o wybodaeth.

Yn ôl i newyddion