Yn ôl i newyddion

Blwyddyn Fawr i'r Gronfa Jump2

Yma yn Melin, rydyn ni'n angerddol dros ben ynghylch grymuso ein cymunedau a chefnogi'r mudiadau, yr achosion da a'r prosiectau sy'n gwella bywydau ein preswylwyr a'r ardaloedd lle maen nhw'n byw. Dyna pam y mae gennym Gronfa Jump2 ar waith, sef pot o arian sydd ar gael i ysgolion, grwpiau cymunedol a phrosiectau i’w helpu gyda’u gwaith yng nghymunedau Melin.

Ysgrifennwyd gan Will

16 Medi, 2022

Two men holding gardening tools

Ein Tîm Cymunedau sy'n rhedeg y Gronfa Jump2 a rhan bwysig o'i waith yw asesu'r ceisiadau am nawdd sy'n dod i law, a dod i gyswllt â'r rheiny sydd wedi estyn allan i ni. Mae'n dasg brysur ond gwerth chweil ac roeddem wrth ein bodd i allu cefnogi 16 cais llwyddiannus (o gyfanswm o 19) y llynedd, gan ddyfarnu cyfanswm o £3,234.

Porwch drwy rai o'r prosiectau isod i weld pa fath o waith pwysig y mae Jump2 wedi gallu ei gefnogi dros y 12 mis diwethaf:

  • Cafwyd cais gan Ysgol Uwchradd Cil-y-coed i brynu robot Lego. Gyda’r robot, bydd cyfle i ddysgu codio ac addysgu sgiliau i'r plant a allai eu helpu i ddewis pwnc i'w astudio neu yrfa yn y dyfodol. Mae'r ysgol yn gobeithio y bydd yn gallu adeiladu nifer o robotiaid er mwyn iddi allu gwahodd yr ysgolion cynradd sy'n ei bwydo i ymweld ac i ddysgu am raglennu robotiaid yn y dyfodol. Bydd hyn yn ei galluogi i gynnig sgiliau newydd i'r plant cyn-oed-cynradd yn yr ardal.
  • Roedd Ysgol Uwchradd Gatholig Sain Alban eisiau codi arian i'w fuddsoddi yn y gwaith o ddatblygu campfa ac ystafell ffitrwydd yr ysgol. Byddai'r ystafell yn cael ei defnyddio i drechu nifer o'r problemau y mae cymuned yr ysgol yn eu hwynebu ac ôl-effeithiau'r pandemig. Roeddent yn gweld bod llawer o fyfyrwyr wedi dioddef effaith ddifrifol ar eu hiechyd corfforol a meddyliol er mis Mawrth 2020 ac eisiau defnyddio ymarfer corff fel ysgogiad i wella hyn. Byddai'r arian y gofynnwyd amdano yn eu galluogi i brynu cyfarpar i ehangu campfa/ystafell ffitrwydd yr ysgol, a byddai hynny yn ei dro yn galluogi disgyblion i gael gweithgarwch corfforol yn rhad ac am ddim.
  • Cafwyd cais gan Glwb Bowlio Garndiffaith am gyfraniad tuag at offer i gynnal a chadw'r lawnt fowlio a'i chadw mewn cyflwr da. Mae'r clwb wrth galon cymuned Garndiffaith ac mae ganddo aelodaeth iachus o aelodau gwrywaidd a benywaidd o’r gymuned leol sy'n cynnwys preswylwyr Melin a phreswylwyr nad ydynt yn byw yng nghartrefi Melin. Gall aelodau fwynhau gêmau bowls cystadleuol yn y clwb a gallant gymryd rhan mewn calendr cymdeithasol llawn. Mae croeso i aelodau o bob oed a chwaraeir gêmau cystadleuol a gêmau ymarfer unwaith neu ddwywaith yr wythnos yn ystod y tymor. Yn ogystal â chwarae bowls, mae aelodau yn aml yn dod at ei gilydd i gynnal a chadw'r tŷ clwb a'r cyfleusterau, ac i gymryd rhan mewn digwyddiadau cymdeithasol a gynhelir yn y tŷ clwb.
  • Cyflwynodd Clwb Pêl-droed Tranch gais am strimiwr gwaith trwm i gynnal a chadw tir y clwb gan fod mynediad i'r gymuned leol yn broblematig a pheli troed yn aml yn mynd ar goll yn y gordyfiant. Ceir amrywiaeth eang o weithgareddau ar y cae pêl-droed ac mae pobl o'r ardaloedd cyfagos yn ei ddefnyddio'n rheolaidd, gan gynnwys plant clwb ieuenctid lleol.
  • Cyflwynodd Clwb Pêl-droed Iau Porthsgiwed a Sudbrook gais am arian i brynu cyfarpar pêl-droed. Mae gan y clwb dros 85 o blant lleol rhwng 3 a 14 oed. Mae llawer o'r plant hyn yn elwa ar y ddarpariaeth bêl-droed a gynigir yn rhad ac am ddim i blant hyd at 8 oed. Mae'r grwpiau hŷn yn cael gostyngiad sylweddol ar y pris oherwydd nifer y grantiau a'r nawdd y mae'r gwirfoddolwyr yn gweithio'n galed i'w sicrhau.
School children playing with a toy
Deri View Primary School Breakfast Club
  • Gofynnodd Mudiad Cymunedol Pontnewynydd am gyfraniad tuag at barti Nadolig ar gyfer y gymuned. Gan na fu modd cynnal digwyddiadau cymunedol ers meitin oherwydd y pandemig, roedd y Mudiad Cymunedol yn teimlo y byddai'n braf i'r gymuned gael rhywbeth i edrych ymlaen ato a chyfle i breswylwyr lleol ddod at ei gilydd. Mae'r Ganolfan Gymunedol ar agor ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau fel clwb cinio, dosbarthiadau celf, paffio i blant, bingo, Slimming World, côr meibion, côr anghenion arbennig a dosbarthiadau ffitrwydd.
  • Gofynnodd 6ed Uned Rangers Gorllewin Casnewydd am gyfarpar i gefnogi ei rhaglen Dug Caeredin ac i gynnig mwy o weithgareddau awyr agored. Dyma'r unig Uned Geidiaid yng Nghasnewydd i ferched 14 i 18 oed ac mae'n recriwtio'n weithgar ac yn annog aelodaeth o bob rhan o'r ddinas. Mae’n cwrdd yn rheolaidd, ac mae’r aelodau’n cael hwyl yn gwneud gweithgareddau gyda'i gilydd, ac yn cael cydnabyddiaeth am eu cyraeddiadau a'u gwobrau. Cânt eu hannog i roi rhywbeth yn ôl i'w cymuned trwy wirfoddoli'n lleol. Maen nhw'n cymryd rhan yng ngwobrau Efydd ac Arian Dug Caeredin, ac mae hyn yn cyfoethogi eu CVs, yn eu helpu i gael swyddi ac yn gymorth ar gyfer ceisiadau i'r brifysgol.
  • Gofynnodd Clwb Pêl-droed Cwmbrân am beli hyfforddi a nwyddau i ail-lenwi eu pecynnau Cymorth Cyntaf. Bwriad y clwb yw parhau i roi cyfle i bob unigolyn i chwarae pêl-droed, ar bob lefel oedran, ac i symud ymlaen at safon y maen nhw'n ei mwynhau, mewn cymuned chwaraeon gyfeillgar sy'n ffynnu. Yn anffodus, mae'r pandemig wedi cael effaith ddinistriol ar dîmau pêl-droed ar lawr gwlad, ar hyd a lled y wlad, ac mae Tref Cwmbrân yn un ohonynt. Wrth edrych tua'r dyfodol, maen nhw'n gobeithio datblygu'r clwb i ddod yn gynaliadwy yn ariannol, a bydd hyn o fudd mawr i'r gymuned leol trwy sicrhau bod yna neuaddau/caeau i'w rhentu, siop goffi/hwb cymunedol a mwy.
  • Cyflwynodd Sefydliad Glowyr Llanhiledd gais am nawdd i brynu offer a defnyddiau i gefnogi'r clwb cinio misol a digwyddiadau i bobl hŷn. Mae'r clwb cinio misol wedi bod yn rhan gadarn a phoblogaidd o weithgareddau'r gymuned ers dros ddeng mlynedd, a chyn y pandemig roedd 90-110 o bobl hŷn yn dod i'r clwb. Mae'r clwb cinio'n cynnig cyfle i bobl hŷn o Flaenau Gwent, Caerffili a Thorfaen gymdeithasu a chwrdd â ffrindiau hen a newydd. Mae'r clwb cinio hefyd yn helpu cefnogi dau fudiad lleol arall, sef Hosbis y Cymoedd a Chlwb Gwau a Sgwrsio Llanhiledd.
  • Cyflwynodd Cymdeithas Trigolion Pantygasseg gais am daliad tuag at gostau gosod diffibriliwr cymunedol. Mae'r pentref yn un gwledig iawn ac ar gopa mynydd yng ngogledd Torfaen. Daw mudiadau fel Clwb Beicio Mynydd Tirpentwys a Chymdeithas y Cerddwyr, a cherddwyr lleol a thwristiaid sy’n dod i weld y Lagŵn Glas, i ymweld â'r ardal. Yn y deng mlynedd ddiwethaf, mae dau o'r preswylwyr wedi marw o ataliad y galon ac mae ambiwlansys yn cymryd dros 40 munud i gyrraedd y pentref. Yn 2019 bu farw bachgen ifanc 15 oed tra'n aros am ambiwlans, wedi iddo gael ataliad y galon mawr tra'n beicio mynydd. Bydd y diffibriliwr at ddefnydd y gymuned gyfan yn ogystal â'r preswylwyr.
  • Gofynnodd Ysgol Uwchradd Cwmbrân am ddillad rygbi i ddisgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4. Mae Ysgol Uwchradd Cwmbrân newydd dderbyn Swyddog Hwb Rygbi Undeb Rygbi Cymru a nod yr ysgol yw darparu profiad rygbi gwych gyda llawer o gyfleoedd i ddysgwyr. Cafwyd ymgyrch enfawr i hyrwyddo'r gêm yn ystod amser ysgol ac yn allgyrsiol, a rhoddwyd llond lle o gyfleoedd i fyfyrwyr gwrywaidd a benywaidd gymryd rhan.
  • Gofynnodd Eco Warriors of Bran am arian i brynu cyfarpar ac offer ar gyfer gwaith amgylcheddol a chasglu sbwriel yn y gymuned. Nod y grŵp o drigolion a gwirfoddolwyr o Gwmbrân yw gwarchod amgylchedd naturiol Torfaen a’i amddiffyn. Maen nhw’n gwneud hyn trwy adfywio a datblygu ardaloedd naturiol a chodi ymwybyddiaeth o natur yn yr ardal trwy ddigwyddiadau a gweithgareddau. Cynhelir ymgyrchoedd casglu sbwriel bob dydd Sul trwy gydol y flwyddyn, ac maent yn cael eu hyrwyddo trwy Facebook ac yn agored i unrhyw un sydd eisiau cymryd rhan. Mae'n cynnwys ardal gyfan Cwmbrân gan gynnwys ystadau tai ac ardaloedd o goetir. Hyd yn hyn, cliriwyd 900 bag o sbwriel a 12 tunnell o dipio anghyfreithlon.
  • Gofynnodd Ysgol Gynradd Deri View am gymorth i brynu gêmau bwrdd, jig-sos a Lego i ddifyrru'r plant yn ystod y clwb brecwast. Ar hyn o bryd, mae 54 o blant yn dod i'r clwb a disgwylir i'r nifer godi yn sgil y straen ariannol cynyddol ar deuluoedd.
  • Hoffai'r ysgol agor ei chlwb brecwast i'r holl deuluoedd hynny y mae ei angen arnynt. Mae clybiau brecwast i blant, ond mae eu heffaith yn cyrraedd teuluoedd a chymunedau cyfain. Mae'r clwb brecwast yn cael effaith gadarnhaol ar allu disgyblion i ganolbwyntio, ac mae disgyblion sydd wedi bwyta brecwast yn fwy parod i ddysgu.
A robot building kit
Caldicot School's new robotics engineering kit
  • Gofynnodd Ysgol Gynradd St Illtyd am gymorth i brynu cwch bwystfilod bach a chartref chwilod er mwyn gwella’r ddarpariaeth ddysgu awyr agored ar gyfer y plant. Nod y prosiect yw cael plant o'r gymuned leol i ddysgu caru'r amgylchedd awyr agored, ei barchu a gofalu amdano. Bydd hefyd yn gymorth i ddatblygu sgiliau rhifedd allan yn yr awyr agored.
  • Gofynnodd Partneriaeth Garnsychan am nawdd i brynu addurniadau Pasg ar gyfer ei chlwb cinio 'Cysylltu â Ffrindiau'. Mae'r clwb cinio'n cwrdd bob dydd Mawrth i drechu ynysu ac unigrwydd ymhlith preswylwyr hŷn y gymuned. Mae'n cynnig amgylchedd diogel a chroesawgar lle gall y preswylwyr gwrdd yn gymdeithasol, a lle y gellir gwella’u hiechyd a’u lles.
  • Gofynnodd Ysgol Panteg am ddillad tywydd gwlyb ar gyfer prosiect coedwigaeth yr ysgol. Nid yw'r prosiect hwn yn rhan o gwricwlwm yr ysgol ac nid yw dillad ac eitemau yn cael eu hariannu o gyllideb yr ysgol.

Hoffem longyfarch pob un o'n hymgeiswyr llwyddiannus a diolch iddynt am y gwaith gwych maen nhw'n ei wneud ar draws y rhanbarth. Gobeithiwn i chi gael eich ysbrydoli gan rai o'r prosiectau hyn ac efallai y byddwch eisiau cyflwyno'ch cais eich hun. Ry’n ni'n awyddus i glywed gan unrhyw grwpiau sy'n chwilio am nawdd ar gyfer eu gwaith yng nghymunedau Melin. Mae'n syml! Llenwch ein ffurflen gais (gan wirio’n ofalus eich bod yn gymwys) a'i dychwelyd atom, ac fe fyddwn ni mewn cysylltiad!

Yn ôl i newyddion

Straeon eraill efallai yr hoffech eu gweld