Yn ôl i newyddion

Gwybodaeth i fonitro cydraddoldeb

Rydym yn casglu gwybodaeth am ein preswylwyr fel y gallwn sicrhau mai’r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu, yw’r rhai gorau i chi. Yn yr erthygl hon, gallwch ddysgu pam yr ydym yn casglu’r wybodaeth, a’r hyn yr ydym yn ei wneud gyda’r wybodaeth yr ydych chi’n ei rhoi i ni.

Ysgrifennwyd gan Fiona

15 Meh, 2023

Darlun o siartiau a data

Monitro cydraddoldeb – Pam ydym ni’n gofyn i chi roi gwybodaeth i ni amdanoch chi?

Mae monitro cydraddoldeb yn cynnwys casglu gwybodaeth am ein staff, gwirfoddolwyr a phreswylwyr, ac mae’n rhan bwysig o daclo anghydraddoldeb a gwahaniaethu. Mi fydd yn ein helpu i weld a yw’r gwasanaethau a ddarperir gan Gartrefi Melin yn bodloni anghenion ein preswylwyr, perchnogion tai, a chymunedau lleol.

Gelwir y wybodaeth yr ydym ni’n gofyn amdani, yn ddata monitro cydraddoldeb. Rydym yn cydnabod bod pawb yn wahanol, ac rydym yn trin pob gwahaniaeth gyda pharch. Rydym yn casglu data ar ethnigrwydd, crefydd, statws priodasol, anabledd, rhyw, rhywioldeb a statws ailbennu rhywedd. Mae'r rhain i gyd yn nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Mae Melin yn anelu i fod yn sefydliad cynhwysol, sy’n ymrwymo i ddarparu cyfleoedd cyfartal. Rydym yn annog cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y gweithle ac yn ein cymunedau.

Pam ddylech chi lenwi ein ffurflen fonitro cydraddoldeb? Pam ydym ni’n gofyn am y wybodaeth hon?

Dyma bedwar rheswm:

  1. Y wybodaeth yr ydym yn gofyn amdani yw’r cam cyntaf i’n helpu i ddeall natur amrywiol ein preswylwyr/perchnogion tai ac unrhyw anghydraddoldeb sy’n bodoli. Mae’n ein helpu i’ch deall chi, gwneud pethau’n well a gwella ein gwasanaethau. Mae’n dangos inni os nad yw rhai o’n preswylwyr/perchnogion tai yn gwneud y mwyaf o’r gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig. Mae’n helpu i sicrhau eich bod yn cael y gorau o’r hyn yr ydych yn ei dalu amdano. Ni allwn newid pethau heb eich help chi.
  2. Rydym yn cael ein hatgoffa’n aml i fod yn ofalus gyda phwy yr ydym yn rhannu gwybodaeth bersonol, a hynny oherwydd achosion o ddwyn hunaniaeth. Ond, pan fyddwch chi’n rhoi gwybodaeth inni fel eich oedran, hil, anabledd, neu rywioldeb, mae’n ein helpu i wella’n gwasanaethau.
  3. Rydym yn gwerthfawrogi’r wybodaeth bersonol yr ydych yn ymddiried digon ynom i’w rhannu gyda ni. Byddwn yn sicrhau bod eich gwybodaeth yn cael ei chadw’n ddiogel ar ein systemau rheoli tai. Ni fyddwn yn rhannu eich data cydraddoldeb gyda sefydliadau eraill. Os ydych yn gofidio am y ffordd yr ydym yn trin eich data, gofynnwch i ni. Os nad ydych am roi eich gwybodaeth cydraddoldeb i ni, nid oes rhaid i chi wneud hynny.
  4. Mae'r wybodaeth hon yn ein helpu i wneud pethau'n iawn. Efallai yr hoffech siarad â ni mewn iaith wahanol, neu fod gennych anghenion iechyd. Os ydym yn gwybod, gallwn sicrhau bod ein gwasanaethau'n iawn i chi.

Beth ydym yn ei wneud gyda’r wybodaeth monitro cydraddoldeb a roddir i ni:

Mae'r wybodaeth cydraddoldeb yr ydym yn ei chasglu yn ein galluogi i:

  • nodi problemau o ran mynediad a’r hyn sy’n eich rhwystro rhag defnyddio ein gwasanaethau;
  • cael tystiolaeth ynghylch yr angen am wasanaethau newydd;
  • penderfynu a ydym yn cyrraedd ein cymunedau, gwrando arnynt a’u trin yn deg;
  • nodi unrhyw wasanaethau neu bolisïau sydd gennym a allai effeithio'n negyddol ar bobl o gymunedau amrywiol; a ein galluogi i ddeall a chreu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Beth ydym ni wedi ei wneud gyda’r wybodaeth cydraddoldeb a gasglwyd yn flaenorol?

  • Pan fydd preswylwyr/perchnogion tai yn cael cartref gyda ni am y tro cyntaf, defnyddiom y wybodaeth cydraddoldeb i dynnu sylw at y bobl a allai fod angen cymorth i drefnu eu harian, cymorth gyda budd-daliadau (sicrhau eu bod yn cael yr holl arian sy’n ddyledus iddynt), cyngor ar arian/dyled a chymorth pellach.
  • Mae ein systemau cyfrifiadurol yn ein hysbysu bod gan rywun broblemau mynediad ac maent yn ein helpu i ganfod yr angen i wneud addasiadau rhesymol. Er enghraifft, os oes gennych nam ar y golwg neu’r clyw, byddwn yn gwybod, a gallwn addasu ffordd yr ydym yn cyfathrebu.
  • Ystyrir gwybodaeth monitro pan fydd angen i ni wneud penderfyniadau cyfreithiol. Er enghraifft, os oes gan rywun anabledd, byddwn ni’n ystyried hyn ac yn ‘asesu cymesuredd’, cyn y gwneir unrhyw benderfyniadau cyfreithiol. Gall hyn arwain at ddarparu mwy o gefnogaeth, os nad yw eisoes ar waith.

Pam ydym yn holi mwy o gwestiynau ar ein ffurflen monitro cydraddoldeb?

Rydym wedi diweddaru ein ffurflenni monitro cydraddoldeb yn ddiweddar ac mae ein cwestiynau bellach yn cyd-fynd â Chyfrifiad 2021, bydd hyn yn ein helpu i gymharu'r data.

Mae ein ffurflen newydd yn cynnwys cwestiynau am: Y Gymraeg; iechyd; cwestiynau mwy eglur am anabledd; ac mae categorïau newydd. Bydd y cwestiynau ychwanegol yn ein helpu i wella’n gwasanaethau a’n helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol.

A yw'n ofynnol i breswylwyr roi eu gwybodaeth am amrywiaeth i Melin?

Na, nid oes rhaid i chi rannu’r wybodaeth gyda ni. Os yw’n well gennych beidio, gallwch ddewis y blwch ‘gwell gen i beidio ag ateb’. Wrth farcio’r bwlch hwn byddwn yn gwybod nad ydych am rannu’r wybodaeth gyda ni.

Os yw preswylwyr eisoes wedi rhoi eu data cydraddoldeb i Melin, a oes rhaid iddyn nhw ei roi eto?

Oes, os gwelwch yn dda. Mae gennym ffurflen a chwestiynau newydd. Byddwn yn diweddaru’r wybodaeth bob blwyddyn, er mwyn sicrhau ei bod yn gywir. Y tro nesaf y byddwn yn gofyn i chi ddiweddaru’ch gwybodaeth, bydd angen i ni wybod y pethau sydd wedi newid yn unig. Er enghraifft, eich iechyd, cyfrifoldebau gofal, rhyw neu anabledd.

Sut gall preswylwyr roi eu gwybodaeth am gydraddoldeb?

Mae llawer o ffyrdd y byddwn yn casglu'r wybodaeth:

  • Mae ein ffurflen ar-lein ar gael yma. Bydd y ddolen hon yn mynd â chi i ffurflen y gallwch ei llenwi ar y we.
  • Efallai y byddwch yn derbyn neges destun neu e-bost gyda dolen ddiogel i lenwi'r ffurflen ar-lein.
  • Pan fyddwch yn ein ffonio, gall ein Tîm Cyswllt Cwsmeriaid ofyn i chi lenwi'r ffurflen dros y ffôn.
  • Os byddwch yn gofyn am ffurflen bapur – peidiwch â phoeni, mae gennym amlenni i chi ddychwelyd y ffurflen ar ôl ei llenwi.
  • Os ydych chi'n byw yn un o'n cynlluniau tai, gall y rheolwr eich helpu i lenwi'r ffurflen.
  • Os oes gennych apwyntiad wedi'i drefnu gydag aelod o staff, gallant eich helpu i lenwi'r ffurflen.

Yn ôl i newyddion