Yn ôl i newyddion

Seremoni Torri’r Tir Parc Elderwood

Mae gwaith adeiladu wedi cychwyn ar ein datblygiad tai £55 miliwn ym Mhorthsgiwed, Sir Fynwy. Dathlodd partneriaid o Gartrefi Melin, Candleston (is-gwmni i Melin), Cyngor Sir Fynwy, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Lovell y seremoni i dorri’r tir yr wythnos yma.

Ysgrifennwyd gan Fiona

06 Gorff, 2022

Pedwar o bobl ar y safle

Mae gwaith adeiladu wedi cychwyn ar ein datblygiad tai £55 miliwn ym Mhorthsgiwed, Sir Fynwy. Dathlodd partneriaid o Gartrefi Melin, Candleston (is-gwmni i Melin), Cyngor Sir Fynwy, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Lovell y seremoni i dorri’r tir yr wythnos yma.

Bydd y safle hefyd yn gweld datblygiad cartref gofal a fydd yn cefnogi 32 o bobl sy’n byw gyda dementia. Hefyd, cafodd Cyngor Sir Fynwy gyllid o Gronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru drwy Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Rydym wedi gweithio’n galed i sicrhau bod y datblygiad yn ystyried y gymuned leol, yn mynd gyda chefn gwlad hyfryd yr ardal, gydag amrywiaeth o opsiynau ar gyfer teithio llesol, gan annog pobl i gerdded a beicio ynghyd â phwyntiau gwefru cerbydau trydan.

Paula Kennedy, Prif Weithredwr — Cartrefi Melin

Parhaodd Paula: ”Mae wedi bod yn wych ymweld â’r safle heddiw i weld sut mae gweithio mewn partneriaeth yn gallu bod o fudd i gymunedau a’r economi lleol.

“Mae Melin eisoes wedi gweithio’n helaeth gydag ysgolion lleol, ac yn edrych ymlaen at weld sut bydd y partneriaethau hyn yn ffynnu dros y blynyddoedd nesaf. Drwy gyfrwng gwaith partneriaeth pellach, edrychwn ymlaen at rannu mwy o newyddion da am gyflogaeth leol a phrentisiaethau. Mae pethau gwych yn digwydd pan fyddwch yn gweithio mewn partneriaeth.”

Pedwar o bobl yn sefyll gyda rhawiau, yn sefyll o flaen rhai craeniau
O'r chwith i'r dde, Scott Rooks, Peter Crockett, Martin Reed and Paul Kennedy

Gweithio gyda’r gymuned leol

Gweithio gydag ysgolion

Rydym yn falch o’n rhaglen ysgolion, FACE, sy’n cynnig gweithdai unigryw a chymorth i ysgolion cynradd ac uwchradd; cysylltu gyda’r cwricwlwm ac wedi ei deilwra i gael y gorau allan o bobl ifanc. Rydym eisoes wedi gweithio gyda nifer o ysgolion yn yr ardal leol:

Ysgol Cil-y-coed

  • Trefnu nifer o siaradwyr i ysbrydoli disgyblion
  • Nifer o sgyrsiau am wirfoddoli
  • Cefnogi tîm peirianyddol Lego gydag offer a sgiliau ymarferol
  • Rydym wedi darparu staff gyda gemau i hybu ymlacio

I ddod yn Ysgol Cil-y-coed

  • Hwyl-ddydd Blwyddyn 7
  • Cyfleoedd profiad gwaith
  • Digwyddiad Dragons Den – dysgu myfyrwyr am gynllunio prosiect a sgiliau cyflwyno
Castle Park
  • Trefnu sgyrsiau gyda siaradwyr: bocsiwr lleol – Kieran Gethin a stori ysbrydoledig gyda Jamie McAnsh
  • Ffrwyth am ddim i staff
  • Siaradodd aelod staff Aaron gyda disgyblion am yr amser pan roedd yn y fyddin
  • Digwyddiad Dragons Den – dysgu myfyrwyr am gynllunio prosiect a sgiliau cyflwyno
Ysgol Gynradd Magor
  • Digwyddiadau lles i athrawon
  • Te/Coffi wedi ei roi i’r ysgol
  • Digwyddiad Dragons Den – dysgu myfyrwyr am gynllunio prosiect a sgiliau cyflwyno
  • Gweithdai Dawns ar gyfer Blynyddoedd 3, 4, a 5
Ysgol Gynradd Undy
  • Rhodd o ddeunyddiau crefftau
Rydym hefyd wedi estyn allan i ysgolion cynradd Dewstow a Durand ac yn gobeithio gweithio gyda nhw yn y flwyddyn ysgol newydd ym mis Medi.

Noddi tîm pêl droed lleol

Mae Candleston Homes a Lovell wedi noddi Clwb Pêl Droed Iau Porthsgiwed a Sudbrook. Cysylltodd yr hyfforddwr Craig Parker gyda Thîm Prosiect Parc Elderwood a gytunodd noddi’r tîm dan 6 oed, bechgyn a merched sydd angen topiau hyfforddi.

Roeddem oll yn cytuno bod hon yn ffordd wych o ddechrau ein menter ‘rhoi’n ôl’ i’r gymuned leol.

Cefnogi cymunedau

  • Rydym wedi cyfrannu £200 i stryd breswyl, St Stephens, i helpu i ariannu eitemau gardd a phrynhawn cerddorol o ddiolch.
  • Rydym wedi darparu bws a gyrrwr i gefnogi Ffair Swyddi Cil-y-coed gyda’n Tîm Cyflogaeth.
  • Rydym wedi darparu bws a gyrrwr i gefnogi Ffair Swyddi Cil-y-coed gyda’n Tîm Cyflogaeth
  • Rydym wedi rhoi £150 i Dîm Tref Cil-y-coed i helpu i gefnogi digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn.
Hafizullah yn cael ei gyfweld ar y safle

Cyfleoedd gwaith

Bydd Tîm Cyflogaeth Cartrefi a phartneriaid yn gweithio gyda Lovell i gynnig cyfleoedd gwaith a phrentisiaethau tra bo’r datblygiad yn mynd rhagddo.

Yn ddiweddar, gweithiodd Tîm Cyflogaeth Melin gyda Lovell i helpu preswylydd lleol Hafizullah gael gwaith cynaliadwy ar y datblygiad. Cefnogwyd Hafizullah i gael ei gerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) (gan sgorio 49 hynod allan o 50!) ac i basio ei gwrs rheoli traffig. Yn olaf, darparodd ein tîm help gyda CV Hafizullah a’i hyfforddi mewn technegau cyfweliad cyn iddo wneud cais am swydd fel warden gatiau gyda’r cwmni adeiladu Lovell. Roedd yn llwyddiannus yn ei gyfweliad ac mae nawr yn gweithio llawn-amser ym Mharc Elderwood.

Mae gennyf lawer o gynlluniau. Rwy’n edrych ymlaen at fynd ar fwy o gyrsiau a chael fy nhrwydded yrru er mwyn gallu mynd ymhellach gyda fy swydd gyda Lovell. Mae Parc Elderwood yn brosiect mawr ac mae llawer o gyfleoedd.

Hafizullah Ashratee

Yn ôl i newyddion

Straeon eraill efallai yr hoffech eu gweld