Yn ôl i newyddion

Diwrnod Cyflogadwyedd 2023

Mae dydd Gwener 30 Mehefin yn Ddiwrnod Cyflogadwyedd ac roeddem yn meddwl y byddai’n gyfle gwych i arddangos gwaith gwych ein Tîm Cyflogadwyedd gyda thrigolion Melin i’w helpu i ddychwelyd at waith a/neu hyfforddiant.

Ysgrifennwyd gan Will

30 Meh, 2023

Dyn sefyll nesaf i gar, gyda thystyrsgrif

Mae dydd Gwener 30 Mehefin yn Ddiwrnod Cyflogadwyedd ac roeddem yn meddwl y byddai’n gyfle gwych i arddangos gwaith gwych ein Tîm Cyflogadwyedd gyda thrigolion Melin i’w helpu i ddychwelyd at waith a/neu hyfforddiant.

Fe wnaeth Aaron o’r tîm Cyflogadwyedd helpu un o’n trigolion o Sir Fynwy, Jack Pritchard, lwyddo yn ei freuddwyd o gael ei drwydded gyrru. Cafodd Jack ei wneud yn ddi-waith ac felly fe wnaethom ni ei helpu i gael gwaith mewn canolfan ddosbarthu Tesco lleol. Ar yr amod bod Jack yn aros yn ei swydd, rhoddodd Melin gymorth iddo basio ei brawf gyrru theori, a oedwyd yn wreiddiol oherwydd y pandemig. Wedyn cynigion ni gefnogaeth hefyd gyda gwersi gyrru gydag athro gyrru lleol dibynadwy.

Mae Jack yn hynod ddiolchgar am y cymorth a roddwyd gan Aaron. Gyda phlentyn ifanc, gall Jack gynllunio diwrnodau allan nawr ac ymweld â ffrindiau a theulu diolch i’w allu newydd i yrru.

Ers pasio fy mhrawf gyrru, mae mynd a dod o’r gwaith yn llawer haws na dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus neu ffrindiau. Mae gen i ddewis nawr i aros neu ddechrau’n gynharach a gweithio mwy o oriau.

Jack Pritchard — Trigolyn Melin

Yn y cyfamser, mae Daf o’r tîm wedi bod yn helpu pâr o Dorfaen, Chad a Nicola Carr. Mae gan Chad a Nicola deulu ifanc ac roedden nhw’n awyddus i fynd yn ôl i’r gwaith fel y gallen nhw gefnogi eu plant. Roedd cael gwaith cyn gynted â phosibl yn flaenoriaeth iddyn nhw, felly roedd Daf wrth law i lunio cynllun.

Cafodd Chad, sydd â cherbyd, gefnogaeth gan Daf i gael gwaith dros dro fel saer, gwaith y mae’n mwynhau’n fawr. Roedd cyflogwyr newydd Chad mor falch ohono a’i waith, fel iddo gynnig swydd amser llawn a pharhaol iddo. Helpodd cefnogaeth Melin Chad i gael i gael dillad gwaith newydd a rhoddon nhw gymorth i gefnogaeth i siopa am fwyd, a’i galluogodd i ganolbwyntio ar fynd yn ôl i’r gwaith.

Dilynodd Nicola hefyd gyda’i hawydd a’i pharodrwydd. Cafodd Nicola gefnogaeth i gael gwaith mewn cegin, mae hi wrth ei bodd â’i gwaith ac mae yna hyblygrwydd iddi gael mynd â phlant i’r ysgol a’u codi heb bryderu am gael hyd i ofal plant. Roedd hi am ddysgu sut i yrru hefyd, ac felly fe wnaeth hi gais am ei thrwydded gyrru dros dro a chefnogodd Melin hi gyda gwersi a gyda thalu am gost y prawf theori.

Roedd y teulu Carr yn bleser i weithio â nhw ac roedden nhw’n gwerthfawrogi cefnogaeth Melin. Dywedon nhw: “Gallwn ni ddim diolch digon i Daf am y gefnogaeth, sgyrsiau a chyfarwyddyd y maen wedi rhoi i ni."

Mae Melin wedi bod o gymorth anferthol, mewn ffyrdd annisgwyl ac maen nhw wedi ein helpu ni llawer.

Chad & Nicola Carr — Trigolion Melin

Mae Melin wedi ymrwymo i helpu trigolion i gyrraedd eu nod a gwella ansawdd eu bywydau. Mae ein tîm Cyflogaeth yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd gwaith a hyfforddiant i gefnogi trigolion a’u cymunedau. Mae’r storïau yma o lwyddiant yn dangos ein hymrwymiad at wneud gwahaniaeth cadarnhaol ym mywydau pobl.

Yn ôl i newyddion

Straeon eraill efallai yr hoffech eu gweld