Yn ôl i newyddion

Helô, sut wyt ti?

Mae’n Ddiwrnod Amser i Siarad 2024, ac rydyn ni’n holi ein holl staff – Helô, sut wyt ti? Nid yw’n hawdd siarad am iechyd meddwl, ond rydyn ni’n angerddol am gefnogi cyflogeion ac annog cyflogeion eraill i roi diwedd ar stigma a gwahaniaethu sy’n ymwneud ag iechyd meddwl. Rydyn ni eisiau i bob un deimlo’n gyffyrddus wrth siarad am iechyd meddwl – pryd bynnag a ble bynnag maen nhw eisiau gwneud hynny.

Ysgrifennwyd gan Fiona

01 Chwef, 2024

Llun o staff Melin mwynhau paned

Yn rhodd, fe gafodd ein staff amser i ffwrdd o’u diwrnod prysur i fynd i’n bore ‘Paned a Sgwrs’ amser brecwast, a dyma pam:

  • I amlygu pwysigrwydd cymryd yr amser i siarad a holi’n gilydd – ‘Helô, sut wyt ti?'
  • I roi cyhoeddusrwydd i’r holl adnoddau iechyd meddwl sydd ar gael gennym ar gyfer ein staff.
  • I helpu chwalu’r rhwystrau ynghylch iechyd meddwl a sicrhau bod siarad amdano yn rhan arferol o fywyd bob dydd!
  • Lansiwyd ein cyfres newydd o fygiau 'Zest' – sy’n annog pobl i siarad am eu teimladau ac i gael paned a sgwrs.
  • Cawsom frecwast elusennol gyda llond lle o bethau hyfryd i’n staff yn gyfnewid am rodd fechan i’n helusen y flwyddyn, All Creatures Great and Small.
  • Rydym yn deall bod angen i’n staff gael amser allan o’u diwrnod prysur ac yn cefnogi hyn yn weithgar. Mae’n dda i’w llesiant meddyliol, ac ar gyfer eu morâl hefyd. Rydyn ni’n gwybod bod staff hapus yn arwain at drigolion hapus ac mae hynny’n bwysig iawn i ni a’n gwerthoedd fel sefydliad.

Lluniau o'n bore 'Paned a Sgwrs'

Mae mor bwysig i sefydliadau hyrwyddo’r ffyrdd gwahanol y byddan nhw’n helpu staff a’u cefnogi’n weithgar. Mae Melin yn gwneud hyn ond mae eu gweithredoedd hefyd yn siarad drostyn nhw eu hunain. Aeth aelodau o staff sy’n Uwch-reolwyr, gan gynnwys ein Prif Weithredwr, Paula, i’r brecwast bore ‘ma, ac mae hyn yn dangos mor bwysig ydyw llesiant i ni. Mae’n dangos i staff ei fod yn iawn cymryd amser allan o’u diwrnod i siarad am eu teimladau. Rydw i’n bersonol yn teimlo y gallaf siarad ag eraill a siarad allan pan na fyddaf yn teimlo’n iawn. Rwy’n teimlo fy mod yn cael fy nghefnogi gan aelodau eraill o staff a’u bod yn gwrando arnaf. Nid oes unrhyw un yn fy meirniadu yma.

Fiona — Melin Homes

Lansiwyd ein menter iechyd a llesiant, Zest, yn 2011 ac mae’n rhedeg trwy bob peth a wnawn yma yn Melin.

Yn ôl i newyddion

Straeon eraill efallai yr hoffech eu gweld