Yn ôl i newyddion

Iechyd a Lles ym Melin

Rydym yn angerddol am iechyd a lles ym Melin. Mae hyd yn oed gan ein menter Zest ei frand ei hun, ac mae'n sail i bopeth a wnawn. Rydym wedi bod yn dal i fyny gyda staff i ddarganfod mwy am yr hyn y mae Zest yn ei olygu iddyn nhw. Yn gyntaf yn y gadair boeth mae Will.

Ysgrifennwyd gan Fiona

03 Mai, 2024

Llun o Will, aelod o staff, yn rhedeg gyda’i wraig

Roeddwn i eisiau rhannu fy stori lles gadarnhaol a diolch i Zest am bopeth maen nhw'n ei wneud i hyrwyddo iechyd a lles yma ym Melin.

Ar ôl troi'n 30 roeddwn i'n gwybod bod angen i mi wneud rhai newidiadau i fy ffordd o fyw. Dydw i ddim yn ffanatig pan ddaw hi i ffitrwydd, a, cyn i mi newid fy ffyrdd y llynedd, nid oedd gennyf ddiddordeb mewn mynd ar ddiet nac unrhyw beth tebyg. Fodd bynnag, presenoldeb Zest yn fy mywyd gwaith oedd y llais bach yr oedd ei angen arnaf i rhoi pwt bach i mi i’r cyfeiriad cywir.

Flwyddyn yn ôl, penderfynais gwtogi’n sylweddol ar yr hyn yr oeddwn yn ei yfed (Mynd allan ar nos Iau ac ar ddydd Sadwrn) a dyna oedd y newid mawr cyntaf i mi. Yna’r haf diwethaf, penderfynais fentro ar ddiet carb isel, sydd wir wedi helpu i leihau fy archwaeth, bwyta'n fwy iach ac arbed ambell i bunt i mi hefyd! Mae'r ddau newid hyn wedi fy helpu i golli dros 2 stôn, ac rwyf yn teimlo cymaint yn well – dim mwy o chwyrnu (mae’n debyg!) ac yn gwisgo dillad fu’n casglu llwch yn fy nghwpwrdd dillad. Gall colli pwysau fod yn hynod anodd, ond rwyf wedi dysgu mai'r cyfan sydd angen i chi ei wneud yw gwneud y dewisiadau cywir (y rhan fwyaf o'r amser!) a gadael i amser wneud y rhan fwyaf o'r gwaith.

Roeddwn i'n gwybod mai'r newid terfynol fyddai'r anoddaf: mynd i’r gampfa. Ni fûm erioed yn angerddol am ymarfer corff, ond roeddwn i'n arfer mynd i'r gampfa yn rheolaidd gyda ffrind i mi yn y brifysgol. Roedd ail gyfarwyddo â’r gampfa yn ystod Zest Fest (ein digwyddiad lles blynyddol) ychydig wythnosau yn ôl yn hwb mawr i fy hyder, felly, y mis hwn fe es amdani. Gan ddefnyddio adnoddau ar-lein, creais gynllun syml i wneud ymarfer cardio a chodi pwysau ac rwyf wedi bod yn mwynhau bywyd campfa am y pythefnos diwethaf.

Llun o Will yn y gampfa

Hoffwn ddiolch i Zest am y gwaith y maent yn ei wneud i hyrwyddo dewisiadau a ffyrdd iach o fyw, a hoffem i dîm Zest wybod, er nad ydyw yn fy natur i fod yn unigolyn egnïol, mae eu gwaith wedi fy helpu i wneud newidiadau mawr sydd o fudd i mi a fy nheulu.

Fe wnaf orffen gyda dau ymadrodd bach sydd, yn fy marn i, wedi helpu fy meddylfryd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf:

Mae gwneud rhywbeth yn well na gwneud dim' ac 'mae bod yn dda y rhan fwyaf o'r amser, yn ddigon da.

Will Rees — Melin Homes

Yn ôl i newyddion

Straeon eraill efallai yr hoffech eu gweld