Yn ôl i newyddion

Hoffech chi ymuno â Phanel ein Trigolion?

Rydym yn chwilio am ymgeiswyr i sefyll mewn etholiad ar gyfer Panel y Trigolion.

Ysgrifennwyd gan Valentino

19 Gorff, 2016

Panel y Trigolion
Rydym yn chwilio am ymgeiswyr i sefyll mewn etholiad ar gyfer Panel y Trigolion. Os yw hyn yn apelio, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy Facebook, e-bost, dros y ffôn neu'n ysgrifenedig (gweler ein manylion cyswllt ar y dudalen gartref). Bydd pawb sydd wedi mynegi diddordeb yn derbyn ffurflen gais i Gofrestru Diddordeb. A fyddech cystal â'i chwblhau a'i dychwelyd atom erbyn 29 Gorffennaf. Os bydd mwy na 10 o drigolion yn mynegi diddordeb, bydd etholiad yn cael ei gynnal. Bydd canlyniadau'r etholiad hwn yn cael eu cyhoeddi yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Panel ar 28 Medi.
Gallech hefyd fod yn rhan o'r grwpiau canlynol;
Grŵp Gwasanaeth Cwsmeriaid - cyfarfod â staff Melin yn rheolaidd i drafod sut i wella ein gwasanaethau ar eich cyfer.
Grŵp Anabledd - cynrychioli ein trigolion anabl.
Fforwm Ieuenctid - ydych chi’n drigolyn iau sydd â barn ynglŷn â sut mae Melin yn gweithio i chi? Efallai mai dyma’r grŵp i chi.
Rydym hefyd yn awyddus i glywed gan lesddeiliaid i ymuno â darpar Grŵp i Lesddeiliaid.

Yn ôl i newyddion