Dewch i gwrdd â’n Swyddogion Cymdogaeth
Mae trigolion wedi dweud wrthym ni y bydden nhw’n hoffi gwybod mwy am ein swyddogion tai a’r hyn y maen nhw’n gwneud. Dyma’r cyntaf o’n tîm o staff hyfryd a fydd yn cael eu cynnwys yn ‘Dewch i gwrdd â’n Swyddogion Cymdogaeth'...
Ysgrifennwyd gan Sam
—10 Awst, 2022
Ceri Jones
Ceri ydw i, un o swyddogion tai cymdogaeth Melin ac rwy’n gweithio yn ardaloedd Casnewydd a Phowys.
Cewch chi sgwrsio â fi am...
Gallaf i eich helpu chi gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ymwneud â’ch tenantiaeth gan gynnwys ymholiadau cyffredinol am rent, materion parcio, cwynion am faw cŵn, ymholiadau am symud o gwmpas a chyfnewidiadau ac unrhyw bryderon eraill allai fod gennych am denantiaethau.
Rhan fawr o fy rôl yw cofrestru pobl ar gyfer eu cartrefi newydd ac rwy’n mwynhau hyn yn fawr, ac mae’n hyfryd gweld pobl yn ddiolchgar pan fyddwn ni’n rhoi’r allweddi iddyn nhw.
Bodlonrwydd swydd...
Rydw i wrth fy modd gyda fy swydd gan ei bod mor amrywiol a does dim un diwrnod yr un peth â’r lleill! Rwy’n mwynhau mynd at ein safleoedd a chwrdd â phobl pan gallaf i, ac rwy’n mwynhau dod i adnabod ein trigolion ychydig yn fwy. Rwy’n siarad â nhw dros y ffôn fel arfer, felly pan fyddaf yn cael cyfle i gwrdd â phobl yn bersonol, mae’n wych!
Cwestiynau cyffredin...
Rydym yn cael nifer o gwestiynau am symud ac am fod eisiau cartref mwy neu lai, yn yr achosion yma mae’n rhaid i ni gyfeirio pobl bob amser at eu hawdurdodau lleol i gofrestru.
Er enghraifft, yng Nghasnewydd, mae Opsiynau Cartref Casnewydd ac ym Mhowys, Cyngor Sir Powys. Yn y pen draw, nid ydym yn symud pobl yn fewnol ac mae’r dyraniadau i gyd yn mynd trwy’r awdurdod lleol.