Polisi Cwcis This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.
Tudalen Breifatrwydd

Yn ôl i newyddion

Sialens Cerdded 10 Perffaith

Fe wnaeth staff ymroddedig o Gartrefi Melin gwblhau taith gerdded 10k ar gyfer The Wallich, yn rhan o sialens gerdded genedlaethol i godi arian 'hollbwysig' i elusennau digartrefedd. Mae’r sialens wedi rhoi cyfle i 12 o gymdeithasau tai yng Nghymru gymryd rhan mewn teithiau cerdded, rhedeg neu seiclo noddedig mewn ymgais i gefnogi nifer o elusennau digartrefedd ac elusennau ata.

Ysgrifennwyd gan Fiona

05 Medi, 2023

Grwp o bobl ar dro elusennol

Fe wnaeth ein tîm, yma yng Nghartrefi Melin, fwynhau taith gerdded gylchol o’n swyddfeydd ym Mhont-y-pŵl ar hyd y gamlas i godi arian ar gyfer The Wallich, sy’n cefnogi dros 7,000 o bobl sy'n wynebu digartrefedd bob blwyddyn. Gallwch weld ein cerddwyr wrth iddynt gychwyn ar ddiwrnod poeth iawn.... nid oeddent yn edrych mor ffres ar y diwedd.!


Bant a ni!

Ochr yn ochr â cherddwyr Wallich, Cartrefi Melin, mae cymdeithasau tai eraill wedi cymryd rhan yn y sialens genedlaethol; Stori, Cymdeithas Dai Cymunedol Caerdydd, Clwyd Alyn, Newydd, Tai Cymdeithasol Sir Fynwy, Tai Calon, Cartrefi Conwy, Caredig, Bron Afon, RHA Wales, a Chymoedd i’r Arfordir.

Diolch yn fawr i gorff masnach ein sector Tai Cymunedol Cymru, sydd wedi helpu i gydlynu’r teithiau cerdded a chael hyd i arbenigwyr o Call of the Wild, sy’n arbenigo mewn sgiliau meithrin tîm; a chwmni cyfreithiol Hugh James.

Rydym yn falch iawn o gefnogi'r fath ddigwyddiad cerdded noddedig cenedlaethol, gwych. Cafodd ein taith gerdded gyntaf ei gohirio oherwydd y tywydd gwlyb, ond heddiw, cawsom ein bendithio â heulwen a chefnogaeth wych ein haelodau staff. Mae hyn yn amlygu faint y mae gwaith elusennau fel The Wallich yn ei olygu i bobl.

Paula Kennedy — Prif Weithredwr Cartrefi Melin

Yn ôl i newyddion

Straeon eraill efallai yr hoffech eu gweld