Yn ôl i newyddion

Mae achub bywyd yn waith bob dydd

Rydym wedi cyflwyno gwobr newydd i gydnabod staff sy’n dangos ymddygiad eithriadol yn y cymunedau y maen nhw’n eu gwasanaethu. Mae gwobr RISE wedi ei rhoi i bedwar aelod o’n tîm Cynnal a Chadw’n ddiweddar ar ôl i bob un ohonyn nhw helpu i achub bywyd rhywun.

Ysgrifennwyd gan Fiona

02 Meh, 2021

Paula Kennedy’n cyflwyno gwobrau i’n staff

Rydym wedi cyflwyno gwobr newydd i gydnabod staff sy’n dangos ymddygiad eithriadol yn y cymunedau y maen nhw’n eu gwasanaethu. Mae gwobr RISE wedi ei rhoi i bedwar aelod o’n tîm Cynnal a Chadw’n ddiweddar ar ôl i bob un ohonyn nhw helpu i achub bywyd rhywun.

Stopiodd Tony ei gerbyd i helpu menyw oedd yn sownd yn ei char llawn mwg ar ôl damwain. Bu rhaid iddo ddefnyddio trosol i’w thynnu hi allan ac aeth â hi at le diogel yn ei gerbyd hyd nes i’r gwasanaethau brys gyrraedd.

Roedd Ben yn gweithio yng nghartref un o drigolion Melin pan syrthion nhw, ymatebodd yn gyflym iawn trwy alw ar gymdogion i ffonio am ambiwlans tra ei fod ef yn rhoi triniaeth feddygol – gan achub eu bywyd.

Ben, Tony a Malcolm yn dal eu gwobrau
Ben, Tony a Malcolm yn dal eu gwobrau

Helpodd Malcolm a Nathan aelod arall o’r staff ar oedd yn tagu. Sylwodd Malcolm fod yr aelod o staff yn pesychu ac yn cael trafferth anadlu, sylwodd yn gyflym fod bwyd yn eu llwnc a defnyddiodd ddull Heimlich i ryddhau’r bwyd. Cadwodd Nathan i siarad â’r aelod o staff, gan gadw golwg ar eu hanadlu a’u cludo i’r ysbyty fel bod modd iddyn nhw gael sylw meddygol ar ôl awgrym y gwasanaeth ambiwlans.

Mae cydnabod gwaith staff sydd wedi mynd yr ail filltir i helpu eraill yn bwysig i ni yng Nghartref Melin. Ymatebodd Malcolm, Tony, Nathan a Ben yn gyflym ac yn ddewr gan roi pobl eraill yn gyntaf. Maen nhw’n dangos ein gwerthoedd ni o wneud gwahaniaeth. Rydw i’n falch iawn ohonyn nhw. Mae sefyllfaoedd fel hyn yn dangos pam ei fod mor bwysig sicrhau bod ein staff rheng flaen yn cael hyfforddiant llawn mewn cymorth cyntaf.

Paula Kennedy, Prif Weithredwr — Cartrefi Melin

Yn ôl i newyddion

Straeon eraill efallai yr hoffech eu gweld